Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 16
Mai 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i sefydlu Pwyllgor Senedd
(5 munud)
NDM8260 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
1.Yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:
a) Yn sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig ar gyfer Cymru ar Ymchwiliad Covid-19 gyda’r cylch gorchwyl canlynol:
i) Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiadau yn y camau unigol o Ymchwiliad Covid-19 y DU ac yng nghyd-destun cylch gorchwyl ac amserlen Ymchwiliad Covid-19 y DU, cynnig i’r Senedd, drwy gynnig, unrhyw fylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod pandemig Covid-19 y dylid eu harchwilio ymhellach.
ii) Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, cynnal adolygiad o’r meysydd hynny a nodwyd ar gyfer archwilio pellach.
iii) Cyhoeddi adroddiadau a gwneud argymhellion yn unol â hynny.
b) Yn cytuno na fydd y Pwyllgor Diben Arbennig yn ailedrych ar gasgliadau ymchwiliadau Pwyllgorau’r Senedd sydd wedi’u cwblhau ac y dylai geisio osgoi dyblygu.
c) Yn cytuno na fydd y Pwyllgor Diben Arbennig wedi’i wahardd rhag ymchwilio i faterion a archwiliwyd yn flaenorol gan Bwyllgorau’r Senedd pan fo gwybodaeth wedi’i diweddaru a budd clir i’w gael o graffu arnynt ymhellach.
2. Yn galw ar y Pwyllgor Busnes i sicrhau y bydd dadl yn cael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiadau’r Pwyllgor Diben Arbennig o fewn dau fis i’w cyhoeddi.
3. Yn galw ar y Pwyllgor Busnes, wrth iddo gynnig yr aelodau o’r Pwyllgor Diben Arbennig, i gynnig o leiaf chwe aelod, gan gynnwys y Cadeirydd.
Cyd-gyflwynydd
Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
4 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Diwygio Etholiadol
(30 munud)
5 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Lleihau Llwyth Gwaith
(30 munud)
6 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol – Cyhoeddi Cynllun Gweithredu Adroddiad y Grwp Arbenigol (Cam 1) - GOHIRIWYD
7 Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023
(10 munud)
NDM8263 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ebrill 2023.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Ymateb gan Lywodraeth Cymru
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod eitemau 8 a 9 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud):
8 Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2023
NDM8262 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Ebrill 2023.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder
a’r Cyfansoddiad
9 Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2023
NDM8261 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ebrill 2023.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Ymateb gan Lywodraeth Cymru
10 Cyfnod pleidleisio
11 Dadl: Cyfnod 3 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)
(180 munud)
Caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 a dderbyniwyd gan y Senedd ar 9 Mai 2023.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1. Yr Amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy
48, 49, 50, 39
2. Statws Cyfartal yr Amcanion
51
3. Diffiniadau o amaethyddiaeth a gweithgareddau atodol
2, 3, 66, 67, 68, 69, 70, 71, 72, 73, 74, 75
4. Darparu cymorth i ffermwyr
4, 52, 53, 54, 38, 55
5. Adroddiadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy
40, 41
6. Cynlluniau Cymorth Amlflwydd
42
7. Ymyrraeth mewn Marchnadoedd Amaethyddol – Costau Mewnbwn
56, 57, 58, 59, 60, 61, 62
8. Tenantiaethau Amaethyddol
63, 5A, 5, 64, 65, 37
9. Casglu a Rhannu Data
47
10. Coedwigaeth
7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 34
11. Bywyd gwyllt – defnyddio maglau
44, 45, 46, 43
12. Pwerau Gwneud Rheoliadau (Adran 47 a 50)
35, 36
13. Teitl Hir
1
Dogfennau
Ategol
Bil
Amaethyddiaeth (Cymru), fel y’i diwygiwyd yng nghyfnod
2
Memorandwm
Esboniadol, wedi'i ddiwygio ar ôl Cyfnod 2
Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli
Grwpio Gwelliannau
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 17 Mai 2023